Rhif y ddeiseb: P-06-1379

Teitl y ddeiseb: Gwahardd gwerthu e-sigaréts untro

Geiriad y ddeiseb:  Mae e-sigaréts untro yn dod yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac mae tueddiad cynyddol i gael gwared arnynt mewn modd amhriodol.  Er bod modd ailgychu’r deunyddiau, fel arfer, ar y gorau, maent yn cael eu taflu i’r gwastraff cyffredinol, ac yn fwy aml na pheidio yn cael eu gadael fel sbwriel mewn mannau cyhoeddus, gan achosi problemau ar gyfer yr amgylchedd lleol.

 

 


1.        Y cefndir

Ym mis Gorffennaf 2023, galwodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy’n cynrychioli cynghorau yng Nghymru a Lloegr,  ar Lywodraeth y DU i wahardd gwerthu a gweithgynhyrchu e-sigaréts tafladwy/untro erbyn 2024. Rhoddodd y Gymdeithas ragor o fanylion am ei safbwynt polisi ym mis Hydref 2023.

Yn ôl arolwg gan YouGov ym mis Gorffennaf 2023 roedd 77% o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn cytuno i raddau, neu’n cytuno’n gryf, y dylid gwahardd e-sigaréts untro. 

1.1.            Pryderon amgylcheddol

Yn ôl adroddiadau, mae bron 5 miliwn o e-sigaréts untro yn cael eu taflu o’r neilltu bob wythnos (8 yr eiliad) yn y DU yn 2023, bedair gwaith y nifer gyfatebol yn 2022. Pan gânt eu taflu o’r neilltu, bydd e-sigaréts untro’n dod yn gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff  ac mae angen eu trin mewn ffordd benodol yn y llif gwastraff. Corff anllywodraethol annibynnol sy'n gweithio ar y defnydd o ddeunyddiau trydanol a'r gallu i'w hailgylchu yw Material Focus, a dywed:

Producers, importers, distributors and retailers of single-use vapes need to do a lot more than they are currently doing to meet their legal and financial responsibilities under UK waste electrical (WEEE) and portable battery regulations.

Tynnodd y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) sylw at y ffaith ei bod yn anodd ailgylchue-sigaréts tafladwy yn y DU, ac at risgiau diogelwch y batris lithiwm y tu mewn iddynt. Mae'r yswiriwr Zurich Municipal hefyd wedi tanlinellu’r risg hon, gan ddweud bod cynnydd o 62% yn nifer y tanau mewn lorïau bin a chynnydd o 108% yn nifer y tanau mewn tai sy’n cael eu hachosi gan e-sigaréts yn ystod y ddwy flynedd cyn i’r cwmni ryddhau ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2023.  Dangosodd ymchwil Zurich Municipal hefyd fod tri e-sigarét untro’n cael eu taflu o’r neilltu mewn ffordd amhriodol yn y DU bob eiliad. Hefyd, meddent, nid yw tri o bob pedwar defnyddiwr yn ymwybodol o’r ffordd briodol o gael gwared arnynt ac nid yw cyfradd gyfatebol yn sylweddoli eu bod yn cynnwys batris lithiwm. 

Mae’r RSCPA hefyd wedi galw am wahardde-sigaréts tafladwy oherwydd eu bod yn peri risg sylweddol i anifeiliaid domestig a gwyllt. Mae'r risgiau hyn yn cynnwys y posibilrwydd iddynt achosi tân, y bydd anifeiliaid yn eu llyncu neu’n eu gwenwyno a bod perygl iddynt dagu arnynt. 

1.2.          Pryderon iechyd a’r effeithiau ar blant a phobl ifanc

Tanlinellodd Iechyd Cyhoeddus Cymru  y risgiau i iechyd y rhai sy’n defnyddio e-sigaréts, yn enwedig plant a phobl ifanc. Er bod e-sigaréts yn cael eu hystyried yn llai niweidiol na sigaréts, ni ellir dweud nad does dim risg ynghlwm wrthynt ac nid yw'r effeithiau hirdymor yn hysbys. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd fod bod yn gaeth i nicotin yn effeithio ar iechyd meddwl a lles. Dywedodd Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod tystiolaeth gynyddol yn dangos bod pobl ifanc yn fwy tebygol o ddechrau ysmygu os ydynt yn defnyddio e-sigaréts.

Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru rybudd arbennig am e-sigaréts untro sy’n aml yn rhatach ac felly'n cael eu gwerthu'n eang i bobl ifanc. Mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau  ar fepio i ddisgyblion oed uwchradd.

Mae arolygon 2023 ASHSmokefree GB o oedolion a phobl ifanc yn dangos  bod yr e-sigaréts y bydd plant yn eu dewis yn e-sigaréts untro fel arfer, a bod:

§    y gyfran o’r plant a roddodd gynnig ar fepio unwaith neu ddwy wedi cynydduu 50% yn 2023, gan gyrraedd 11.6%;

§    y gyfran o’r plant sy’n fepio’n rheolaidd wedi cynyddu 150% yn 2022, ac yna 20% yn 2023, gan gyrraedd 3.7%; a

§    y gyfran o’r plant sy’n fepio'n achlysurol (llai nag unwaith yr wythnos) wedi dyblu bron yn 2022 ac wedi aros yn gyson yn 2023, sef 3.9%. 

Galwodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar i Lywodraeth y DU  wahardd e-sigaréts untro (sef term i ddisgrifio systemau electronig ar gyfer cyflenwi nicotin) a hynny oherwydd:

(…) disproportionate use among children and young people and their detrimental impact on the environment.

1.3.          Y risgiau posibl cysylltiedig â’u gwahardd

Mae’r UK Vaping Industry Association (UKVIA) yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â  fepio ymhlith plant, ac mae’n cynnig gosod dirwyon llymach ar fanwerthwyr sy'n gwerthu e-sigaréts i blant. Fodd bynnag, gwrthododd UKVIA gynigion i gyflwyno rheoliadau llymach, gan ddweud y byddai’n cael effaith niweidiol ar y rhai sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu ac  yn arwain at dwf yn y farchnad ddu na ellir ei rheoleiddio.

Gwrthododd y Gymdeithas Llywodraeth Leol y ddadl y byddai 'marchnad ddu' yn datblygu pe bai e-sigaréts yn cael eu gwahardd,  gan ddweud nad oes tystiolaeth yn awgrymu hyn, a bod marchnad ddu yn bod eisoes.

1.4.          Y camau a gymerwyd mewn gwledydd eraill

Mae nifer o wledydd Ewropeaidd wedi gwahardd e-sigaréts untro neu’n ystyried gwneud hynny. Yn Ffrainc, mae Bil at y diben hwn wedi’i fabwysiadu yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn Iwerddon, mae ymgynghoriad ynghylch y mater wedi’i lansio. Mae’r Almaen wedi pasio deddf i wahardd e-sigaréts untro ac mae Hwngari wedi pasio deddf i wahardd e-sigaréts untro’r brand Elf Bar a chynhyrchion tybaco â blas. Mabwysiadodd Cyngor yr Undeb Ewropeaiddreoliad newydd ynghylch batris a batris gwastraff, sy’n ei gwneud yn ofynnol i sicrhau bod modd tynnu pob batri cludadwy o’i le, a’i newid, erbyn 2027.

Mae rhai gwledydd, fel Denmarc, Estonia, a’rFfindir, wedi gwahardd rhai blasau. Mae rhagor o wybodaeth am fesurau rheoleiddio e-sigaréts â blas fel ar mis Awst 2023 wedi’i chyhoeddi gan Physicians for a Smoke Free Canada (PSC).

Mae Awstralia yn bwriadu gwahardd e-sigaréts ac eithrio’r rhai sydd ar gael ar bresgripsiwn. Mae Seland Newydd wedi gostwng lefelau’r nicotin a ganiateir mewn e-sigaréts untro. Erbyn mis Awst 2023, roedd mwy na deg ar hugain o wledydd, gan gynnwys Brasil, Japan ac Uganda, wedi gwahardd e-sigaréts yn gyfan gwbl.

 Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol:

If the EU becomes a less attractive market for international producers it may lead to stocks of non-compliant vapes being dumped on less-regulated markets, e.g. the UK.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Ym mis Hydref 2023, lansiwyd ymgynghoriad  pedair gwlad ynghylch creu 'cenhedlaeth ddi-fwg'. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch cyfyngu ar gyflenwi a gwerthu cynhyrchion fepio untro. Roedd hyn yn dilyn cais am dystiolaeth am fepio ymhlith pobl ifanc a gynhaliwyd rhwng Ebrill a Mehefin 2023.

Tanlinellodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yr angen i’r DU gyfan fabwysiadu’r un mesurau, a chyfarfu â Gweinidogion ac uwch swyddogion y DU ym mis Medi 2023. Dywedodd:

We will be talking with the UK Government about accelerating both the consultation and, then, the outright ban on single-use e-cigarettes, actually, not just vapes—there are slightly different products on the market—because of both the public health and the environmentally wasteful, highly damaging and dangerous nature of this product.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio hefyd gyda gwledydd eraill y DU i gynnwys e-sigaréts yn y cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr  newydd.

Yn ogystal, soniodd  y Gweinidog Newid Hinsawdd am y gwaith a wnaed gyda Safonau Masnach Cymru i hybu’r gwaith ar gynhyrchion fepio anghyfreithlon.

3.     Camau a gymewyd gan Senedd Cymru

Ym mis Rhagfyr 2022, cynigiodd Rhys ab Owen AS welliannau i ychwanegu  e-sigaréts untro at yr Atodlen i’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) fel yr oedd ar y pryd (“y Bil Plastig Untro”). Byddai'r gwelliannau wedi golygu gwahardd fêps ac e-sigaréts untro.  Gwrthodwyd y gwelliannau. Dywedodd  y Gweinidog Newid Hinsawdd fod angen mwy o dystiolaeth cyn cyflwyno gwaharddiad. Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd e-sigaréts yn yr ymdrechion i helpu ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu.

Ym mis Medi 2023, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith sesiynau tystiolaeth ynghylch y Bil Plastig Untro. Tanlinellodd y Sefydliad Materion Cymreigyr angen i sicrhau cysondeb drwy’r DU yn achos y plastigau untro newydd sy’n dod ar y farchnad, er enghraifft e-sigaréts untro. Tynnodd Cadwch Gymru'n Daclus sylw at y cynnydd mewn e-sigaréts untro mewn sbwriel stryd. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymrufod awdurdodau lleol yn tanlinellu’n gryf y problemau cysylltiedig ag e-sigaréts.

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Medi 2023, gofynnodd Vikki Howells AS, gwestiwn i Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (“y Trefnydd”) ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y plant dan oed sy’n fepio.  Atebodd y Trefnydd drwy ddweud:

Rydym ni'n eglur iawn na ddylai plant ddefnyddio e-sigaréts, na phobl ifanc na phobl nad ydyn nhw'n ysmygu.  Er y cydnabyddir, wrth gwrs, fod fêpio yn fwy diogel nag ysmygu a gellir eu defnyddio gan rai pobl i helpu i roi'r gorau i ysmygu, ond rydym ni o'r farn fod y dystiolaeth ar eu heffeithiau iechyd hirdymor yn gyfyngedig ac yn parhau i ddod i'r golwg.  Ac, yn rhan o'n strategaeth tybaco, rydym ni'n edrych yn ofalus iawn ar ein safbwynt polisi ni ar e-sigaréts yng Nghymru.

Ym Medi 2023, cyflwynodd Rhys ab Owen AS  gwestiwn  ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wahardd hysbysebu cynhyrchion nicotin â blas a lliwiau sy’n atyniadol i blant. Atebodd Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles (“y Dirprwy Weinidog Iechyd”) ym mis Hydref 2023 ei bod yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU gan ychwanegu:

I await the outcome of the UK Government’s call to evidence on youth vaping and have written to the Minister for Primary Care and Public Health in the UK Government to make clear my support for the introduction of much stronger evidence-based restrictions on the vaping industry, particularly in relation to their marketing and placement in shops.

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ym mis Hydref 2023, atebodd Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, gwestiwn gan Ken Skates AS ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i amddiffyn pobl ifanc rhag effaith fepio:

Mae'r cynigion a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn rhai y byddwn ni'n eu cefnogi, a byddwn yn alinio ein hunain â'r ymgynghoriad yr ydym ni'n disgwyl i Lywodraeth y DU ei ddatblygu (…).

Gofynnodd Darren Millar AS hefyd am y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i helpu i roi e-sigaréts i ysmygwyr fel rhan o wasanaethau’r GIG i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu. Mewn ymateb, tanlinellodd y Prif Weinidog fod manteision fepio yn ddadleuol a bod safbwyntiau meddygol yn amrywio.

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd dadl fer ar effaith fepio ledled Cymru ac fe’i cyflwynwyd gan John Griffiths AS, gyda chyfraniadau gan Jayne Bryant AS a Joel James AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd. Atebodd y Dirprwy Weinidog Iechyd drwy bwysleisio’r gwaith a wnaed gyda gwledydd eraill y DU i ddatrys y problemau’n ymwneud ag e-sigaréts a’r gwaith gydag awdurdodau lleol ym maes gorfodi ac atafaelu cynhyrchion anghyfreithlon. Tynnodd sylw hefyd at y gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu canllawiau seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion a’r camau sy.n cael eu cymryd i helpu’r rhai sy’n gaeth i nicotin. 

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2023, trafododd y Senedd gynnig deddfwriaethol gan Jenny Rathbone AS i gyflwyno Bil i atal gwerthu e-sigaréts untro. Nodwyd y cynnig:

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.